MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL ATODOL
(MEMORANDWM RHIF 4)
BIL GREAT BRITISH ENERGY
1. Gosodir y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn o dan Reol Sefydlog (“RhS”) 29.2. Mae RhS 29 yn rhagnodi bod rhaid gosod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac y ceir cyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol, gerbron Senedd Cymru[1] os yw Bil gan Senedd y DU yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n rhoi sylw i faterion datganoledig.
2. Cafodd Bil Great British Energy (“y Bil”) ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin ar 25 Gorffennaf 2024. Gosododd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (LCM) ar 8 Awst 2024 ar y Bil fel y'i cyflwynwyd sy'n cynnwys crynodeb o'r Bil. Gosodwyd LCM Atodol ar 24 Ionawr yn cwmpasu gwelliannau Llywodraeth y DU a osodwyd ar 23 Ionawr 2025. Gosodwyd LCM Atodol pellach ar 19 Chwefror yn cwmpasu rhagor o welliannau gan Lywodraeth y DU a osodwyd ar 5 Chwefror 2025.
3. Cwblhaodd y Bil Gyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi ar 11 Chwefror 2025 a chwblhaodd y trydydd darlleniad ar 25 Chwefror 2025. Mae'r LCM Atodol hwn yn ymdrin â gwelliannau'r gwrthbleidiau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi a gwelliannau Llywodraeth y DU a osodwyd ar 17 Chwefror 2025 ac a newidiwyd wedi hynny ar 20 Chwefror 2025. Mae fersiwn ddiweddaraf y Bil ar gael yma: Bil Great British Energy
Amcan y polisi
4. Amcanion datganedig polisi Llywodraeth y DU yw bod y cwmni Great British Energy yn sbarduno ynni glân, yn creu swyddi, yn ein gwneud yn annibynnol o ran ynni ac yn rhoi gwerth eu harian i drethdalwyr y DU. Bwriedir i'r Bil sefydlu Great British Energy i ymwneud â phob agwedd ar brosiectau ynni glân, gan gynnwys eu dylunio, eu datblygu, eu hadeiladu, eu comisiynu a'u rhedeg. Bwriedir i'r polisi gynnwys cefnogi seilwaith ar draws y gadwyn cyflenwi ynni glân, sefydlu'r Cynllun Pŵer Lleol a mesurau i helpu i ddiogelu'r cyflenwad ynni a defnyddio ynni'n effeithlon.
Y diweddaraf am y sefyllfa ers cyhoeddi'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol blaenorol
5. Yn ystod Cyfnod Adrodd Tŷ'r Arglwyddi, cytunodd yr Arglwyddi i welliant gan y gwrthbleidiau a gyflwynwyd gan yr Arglwydd Alton o Lerpwl. Diwygiodd Gymal 4 (‘financial assistance’) drwy wneud darpariaeth ar gyfer Great British Energy i atal yr Ysgrifennydd Gwladol rhag darparu cymorth ariannol i Great British Energy pan fo tystiolaeth o gaethwasiaeth fodern yn ei gadwyni cyflenwi ynni. Mae'r gwelliant yn cael ei ddarparu isod:
Cymal 4, tudalen 3, llinell 5, ar y diwedd mewnosoder—
“(6) Financial assistance under this section must not be provided if there exists credible evidence of modern slavery in the energy supply chain of any company designated Great British Energy.”
6. Mae'r gwelliant hwn yn ei gwneud yn ofynnol na ellir darparu cymorth ariannol o dan Gymal 4 os oes tystiolaeth gredadwy o gaethwasiaeth fodern yn ei gadwyn gyflenwi.
7. Cyflwynwyd Cymal 6A newydd gan Lywodraeth y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 17 Chwefror 2025, ac fe'i newidiwyd wedyn ar 20 Chwefror. Mae'r cymal newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol benodi person annibynnol i gynnal adolygiadau ar effeithiolrwydd Great British Energy. Byddai'n rhaid i adroddiadau o'r fath gael eu llunio bob pum mlynedd man lleiaf. Byddai'n rhaid gosod yr adroddiadau gerbron Senedd y DU. Ar 20 Chwefror 2025 newidiodd Llywodraeth y DU y gwelliant. Ychwanegodd Llywodraeth y DU ddarpariaeth a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol i'r Ysgrifennydd Gwladol anfon copi o adroddiad y person annibynnol at Weinidogion Cymru, Gweinidogion yr Alban ac Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon o leiaf 14 diwrnod cyn i'r adroddiad gael ei osod gerbron Senedd y DU.
8. Mae'r Cymal newydd yn cael ei ddarparu'n llawn isod:
“Reviews of Great British Energy’s effectiveness
(1) The Secretary of State must appoint an independent person to carry out reviews of the effectiveness of Great British Energy.
(2) In carrying out the review, the independent person must have regard to the statement of strategic priorities prepared by the Secretary of State under section 5(1).
(3) After each review, the independent person must— (a) prepare a report of the review, and (b) submit the report to the Secretary of State.
(4) On receiving a report, the Secretary of State must— (a) send a copy of the report to the Scottish Ministers, the Welsh Ministers and the Department for the Economy in Northern Ireland, and (b) no less than 14 days after complying with paragraph (a)— (i) publish the report, and (ii) lay a copy of the report before Parliament.
(5) The first report must be submitted to the Secretary of State within the period of 5 years beginning with the day on which this Act comes into force.
(6) Subsequent reports must be submitted to the Secretary of State at intervals of not more than 5 years.
(7) In this section, references to an “independent person” are to a person who appears to the Secretary of State to be independent of— (a) the Secretary of State, and (b) Great British Energy.”
Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y newidiadau i'r Bil Great British Energy
9. Mae Gweinidogion Cymru yn croesawu'r gwelliant sy'n ei gwneud yn ofynnol na ellir darparu cymorth ariannol os oes tystiolaeth gredadwy o gaethwasiaeth fodern yn ei gadwyn gyflenwi.
10. Mae'r gwelliannau a osodwyd gan Lywodraeth y DU hefyd yn cael eu croesawu ac yn cryfhau llywodraethiant Great British Energy ar ôl ei sefydlu. Bydd y gwelliannau yn cyfrannu at sicrhau bod y cwmni'n cyflawni ei flaenoriaethau strategol, y gofynnwyd i Weinidogion Cymru gydsynio iddynt os yw'r blaenoriaethau hynny o fewn cymhwysedd datganoledig. Rydym hefyd yn croesawu cryfhau atebolrwydd Great British Energy i Gymru drwy'r gofyniad i Weinidogion Cymru weld yr adroddiad annibynnol o leiaf 14 diwrnod cyn cyhoeddi'r adroddiad.
Barn Llywodraethau Cymru a'r DU ynghylch yr angen am gydsyniad
11. Mae Llywodraeth y DU yn cytuno â'r asesiad y byddai'r gwelliannau hyn yn gwneud darpariaeth berthnasol i'r graddau y maent yn rhoi sylw i fater datganoledig diogelu'r amgylchedd, a'r materion penodol o wresogi ac oeri ac effeithlonrwydd ynni i'r graddau y maent wedi'u datganoli.
Goblygiadau ariannol
12. Nid oes unrhyw oblygiadau ariannol i Gymru sy'n deillio o gymhwyso'r darpariaethau hyn yng Nghymru.
Casgliad
13. Yr argyfwng hinsawdd yw un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi deddfwriaeth i sefydlu Great British Energy i hwyluso ac annog datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy.
14. Rwy'n croesawu cydsyniad y Senedd i Fil Great British Energy yn dilyn y ddadl ar 4 Chwefror 2025. Mae'r gwelliannau pellach hyn i'r Bil yn gwneud mân ddarpariaeth atodol i'r cymalau hynny y ceisiwyd cydsyniad iddynt o'r blaen. O ganlyniad, mae'r LCM Atodol hwn yn parhau'n gyson â'r cydsyniad a roddwyd o'r blaen.
Rebecca Evans AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
06/03/2025
[1] Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, sylwch ein bod yn cyfeirio at y ddeddfwrfa yng Nghymru fel “Senedd Cymru” y tro cyntaf, ac wedyn fel “y Senedd”, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall.